Sarah Jane DilysPUGHYn dawel ar ddydd Llun, Hydref 21ain 2019 yn Ysbyty Glangwili yn 94 mlwydd oed, gyda'i theulu wrth ei hymyl, Dilys o Tŷ'r Ynys, Pontargothi gynt o Blaencwmbychan, Felingwm. Priod annwyl y diweddar David, mam gariadus Leslie, Adrian, Derrick, Clive, Nigel, Gaynor a'r diweddar Pamela, mam-gu, hen fam-gu, gorhen fam-gu, mam-yng-nghyfraith a chwaer annwyl Arthur a Menna. Angladd dydd Gwener, 1af o Dachwedd. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Siloam, Pontargothi am 11.00y.b. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Meddygfa Tywi trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626
Keep me informed of updates